Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, wedi dioddef o stelcio neu aflonyddu, mae gwahanol ffyrdd y gallwch roi gwybod i'r heddlu am hyn. Rydym yn deall y gall fod yn anodd. Mae ein swyddogion a'r cyrff sy’n bartneriaid yma i wrando a chydweithio i'ch cefnogi mewn unrhyw ffordd y gallwn. Yn bwysig, gallai eich gwybodaeth ein helpu i ddod â'r troseddwr gerbron llys a sicrhau eich bod chi, a phobl eraill mewn sefyllfa debyg, yn cael eich cadw'n ddiogel.
A oes rhywun mewn perygl uniongyrchol? Oes trosedd yn digwydd ar hyn o bryd neu newydd ddigwydd? Os felly, ffoniwch 999 nawr a gofynnwch am yr heddlu. Os ydych chi'n fyddar neu'n drwm eich clyw, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun atom ar 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda'r gwasanaeth SMS brys.
Os hoffech roi gwybod ar-lein, yn hytrach na siarad â swyddog dros y ffôn yn y lle cyntaf, gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth adrodd am droseddau ar-lein sy'n ddiogel ac yn gyfrinachol.
Caiff yr holl adroddiadau a wneir drwy'r gwasanaeth hwn eu hadolygu gan ein canolfan gyswllt 24/7 o fewn ychydig oriau a bydd swyddog yn cysylltu â chi o fewn dau ddiwrnod fan bellaf (er ei fod fel arfer yn gyflymach).
Os hoffech siarad â rhywun, mae ein rhif ffôn cenedlaethol di-argyfwng wedi'i staffio 24/7. Ffoniwch ni ar 101 a rhowch wybod am yr hyn a ddigwyddodd neu gofynnwch am gyngor.
Os hoffech siarad â swyddog yn bersonol, gallwn ddarparu amgylchedd diogel a chyfforddus yn unrhyw un o'n gorsafoedd heddlu.
Byddwn yn cadw mewn cysylltiad â chi a thrwy gydol yr ymchwiliad cyfan.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen trefnu llety dros dro neu dymor hir ar gyfer dioddefwyr stelcio neu aflonyddu. Efallai bod angen gwaharddeb arnoch i atal y troseddwr rhag cysylltu â chi, neu efallai fod angen gwasanaeth cwnsela neu gymorth arnoch.
Rydym yn gweithio ochr yn ochr â chynghorwyr hyfforddedig nad ydynt yn gweithio i’r heddlu a all gynorthwyo gydag ôl-ofal i chi a'ch teulu.
Os oes angen i chi fynychu'r llys am unrhyw reswm mae gwasanaethau cymorth ar gael hefyd fel nad ydych yn teimlo eich bod wedi'ch llethu na'ch dieithrio gan y broses gyfreithiol.
Os oes yna rywun rydych chi'n ei adnabod wedi dioddef o stelcio neu aflonyddu ac nad yw ef neu hi’n teimlo y gall siarad â'r heddlu eto, ewch ati eich hun i roi gwybod am yr achos drwy unrhyw un o'r dulliau uchod. Byddwn yn cofnodi'r digwyddiad ac yn eich helpu i gefnogi'r dioddefwr os oes angen.
Mae gwybodaeth a ddarperir yn ddienw Taclo’r Taclau yn hynod werthfawr ac yn ein helpu i gynllunio sut rydym yn plismona pob ardal.
Gallwch gysylltu â nhw drwy eu gwefan neu drwy ffonio 0800 555 111.