Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Stelcio ac aflonyddu yw pan fydd rhywun yn ymddwyn dro ar ôl tro mewn ffordd sy'n gwneud i chi deimlo'n ofnus, yn ofidus neu dan fygythiad.
Mae gwahanol fathau o stelcio ac aflonyddu a gall unrhyw un ddioddef y troseddau hyn.
Mae stelcio ac aflonyddu yn droseddau o dan Ddeddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997.
Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn aflonyddu arnoch, fel cymydog, neu bobl o'ch ardal leol neu gallai fod yn ddieithryn.
Gall aflonyddu gynnwys:
Mae'n achos o aflonyddu os yw'r ymddygiad digroeso wedi digwydd fwy nag unwaith.
Mae aflonyddu rhywiol yn anghyfreithlon, fel math o wahaniaethu, o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Mae'r Ddeddf yn dweud ei bod yn aflonyddu rhywiol os yw'r ymddygiad digroeso:
Mae enghreifftiau o aflonyddu rhywiol yn cynnwys:
Mae rhai o’r rhain hefyd yn fathau o ymosodiad rhywiol neu ymosodiad anweddus.
Os ydych chi wedi profi unrhyw un neu ragor o'r rhain, nid eich bai chi yw hi, a does dim rhaid ichi oddef y peth.
Gallwch riportio hyn i ni.
Os nad ydych chi’n teimlo'n barod i gysylltu â ni, gallwch riportio’r peth yn ddienw i Crimestoppers.
Mae stelcio yn debyg i aflonyddu, ond mae'n fwy ymosodol. Bydd gan y stelciwr obsesiwn â'r person maen nhw'n ei dargedu.
Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn eich stelcio; cyn bartner neu berson yr oeddech yn ffrindiau ag ef/hi, neu gallai fod yn ddieithryn. Os yw'n rhywun rydych chi'n ei (h)adnabod, neu'n arfer ei (h)adnabod, nid yw'n golygu mai eich bai chi ydyw; mae'n dal yn achos o stelcio ac mae'n drosedd.
Gall stelcio gynnwys:
Mae'n achos o stelcio os yw'r ymddygiad digroeso yn digwydd fwy nag unwaith.
Os yw’r ymddygiad rydych chi'n ei brofi yn:
Ormodol
Obsesiynol
Digroeso
Mynych
Gallwch roi gwybod am y drosedd neu gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Stelcio Genedlaethol i gael rhagor o gyngor.
Defnyddir safleoedd rhwydweithio cymdeithasol, ystafelloedd sgwrsio, safleoedd hapchwarae a fforymau eraill yn aml i stelcio ac aflonyddu ar rywun, er enghraifft:
Soniwch am fan cyhoeddus lle rydych chi wedi teimlo'n anniogel |
Mae StreetSafe yn beilot sydd wedi’i gynllunio i'r cyhoedd ddweud wrthon ni’n ddienw am fannau cyhoeddus lle maen nhw wedi teimlo'n anniogel. |