Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall swyddog heddlu neu swyddog cymorth/cefnogi cymunedol yr heddlu (SCCH) mewn lifrai eich stopio ond dim ond swyddogion yr heddlu all eich chwilio. Nid oes yn rhaid i swyddog yr heddlu fod mewn lifrai ond rhaid iddo/iddi ddangos ei gerdyn gwarant (ID). Gallant eich chwilio chi, unrhyw beth rydych yn ei gario a cherbyd.
Dyma pan fydd swyddog heddlu neu SCCH yn eich stopio mewn man cyhoeddus ac yn gofyn i chi roi cyfrif am eich hun a gallai ofyn i chi:
Rhaid i’r swyddog heddlu egluro pam eich bod yn cael eich stopio a pham y gofynnir i chi roi cyfrif am eich gweithredoedd neu pam eich bod mewn ardal benodol.
Ymron pob achos, dylid cynnig cofnod o’r stopio a chwilio i chi ar yr adeg y mae’n digwydd.
Mae’r heddlu’n defnyddio’r pwerau hyn er mwyn helpu i wneud y gymuned leol yn fwy diogel drwy atal a datgelu troseddau. Yn naturiol, mae cydweithrediad y cyhoedd yn rhan hollbwysig o hyn.
Bydd stopio a chwilio yn digwydd gan amlaf mewn mannau cyhoeddus. Fodd bynnag, mae rhai pwerau, megis chwilio am arfau tanio/arfau saethu neu gyffuriau, sy’n caniatáu i’r heddlu chwilio pobl yn unrhyw le.
Os ydych mewn man cyhoeddus, efallai y bydd angen i chi dynnu eich côt neu siaced a’ch menig, oni bai eich bod wedi cael eich stopio mewn perthynas â therfysgaeth neu pan fo’r swyddog yn credu eich bod yn defnyddio dillad i guddio pwy ydych chi.
Os yw’r swyddog yn gofyn i chi dynnu mwy o eitemau na hyn, neu unrhyw beth yr ydych yn ei wisgo am resymau crefyddol, megis sgarff wyneb, fêl neu dyrban, rhaid i’r swyddog fynd â chi i rywle sydd allan o olwg y cyhoedd. Nid yw hyn yn golygu eich bod yn cael eich arestio.
Rhaid i’r swyddog fod yn gwrtais a pharchus bob amser. Rydym wedi ymrwymo i wella’n barhaus y safonau’n ymwneud â darpariaeth gwasanaeth i’n cymunedau.
Rydym yn ymwybodol y gallai’r broses gymryd rhywfaint o amser ond dylid ei thrin yn gyflym ac yn broffesiynol. Efallai y bydd y swyddog heddlu yn gofyn ychydig o gwestiynau ac yna, os yw’n teimlo bod hynny’n angenrheidiol, yn eich chwilio.
Nid gwirfoddol yw’r chwiliad. Os nad ydych yn cydymffurfio gall y swyddog ddefnyddio grym rhesymol i gynnal y chwiliad.
Os oes gan y swyddog gamera a wisgir ar y corff bydd yn recordio’r cyfarfyddiad oni bai y teimlir nad yw hynny’n angenrheidiol neu’n gymesur mwyach.
Gall swyddog heddlu yn gyfreithiol stopio unrhyw gerbyd ar unrhyw adeg a gofyn i weld dogfennau gyrru, gwirio cyflwr y cerbyd neu ddelio â throseddau gyrru. Nid stopio a chwilio yw hyn ac efallai y rhoddir dogfennau i chi sy’n berthnasol i faterion traffig ar y ffyrdd. Os yw’r broses gyfan yn gorffen yno, caiff hyn ei ystyried yn ‘stopio cerbyd'.
Daw’n stopio a rhoi cyfrif os gofynnir i chi neu unrhyw deithiwr sydd gyda chi roi cyfrif am eich hun.
Os yw swyddog heddlu yna’n chwilio’r cerbyd neu’r bobl sydd ynddo, mae hyn yn stopio a chwilio.
Rhaid i’r swyddog sy’n eich stopio a’ch chwilio roi gwybodaeth benodol i chi, sy’n cynnwys:
Bydd y swyddog heddlu yn gofyn i chi am eich:
Nid oes yn rhaid i chi roi’r wybodaeth hon os nad ydych am wneud hynny; oni bai bod y swyddog heddlu yn dweud ei fod yn eich riportio chi am drosedd.
Dylid cynnig un o’r canlynol i chi:
Os ydych yn dymuno cwyno naill ai am gael eich stopio neu’ch chwilio neu'r modd y cafodd y broses ei chynnal, bydd y cofnod/derbynneb yn helpu i nodi’r amgylchiadau.
Rhaid i gofnod y chwilio gynnwys y wybodaeth ganlynol:
Nid ydych wedi bod yn destun stopio a chwilio os, er enghraifft: