Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o’ch hawliau a’ch cyfrifoldebau mewn achos o stopio a chwilio.
Mae swyddogion yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod eich hawliau’n cael eu gwarchod, ac, yn eu tro, maent yn disgwyl i aelodau’r cyhoedd gydnabod eu cyfrifoldebau a chydymffurfio â’u ceisiadau mewn modd rhesymol a chadw dan reolaeth.
Dyma eich prif hawliau sy’n eich gwarchod:
Mae gan bawb ddyletswydd ddinesig i helpu swyddogion heddlu i atal troseddu a dal troseddwyr. Nid yw’r ffaith bod yr heddlu wedi stopio rhywun yn golygu ei fod yn euog o gyflawni trosedd.
Ar wahân i’r anghyfleuster, efallai y bydd pobl yn teimlo’n ddig eu bod wedi cael eu stopio pan nad ydynt wedi gwneud unrhyw beth o’i le – mae hynny’n gwbl ddealladwy. Fodd bynnag, bydd y stopio neu’r stopio a chwilio yn llawer cyflymach os bydd y person yn cydymffurfio â swyddogion yr heddlu.
Cofiwch fod yn rhaid cynnal y stopio a chwilio yn unol â rheolau llym – mae cyfrifoldeb ar yr heddlu i sicrhau bod hawliau pobl yn cael eu diogelu.
Mae’r heddlu’n ymwybodol bod cael eich chwilio yn peri anghyfleustra a’ch bod mwy na thebyg ar frys i gyrraedd pen eich taith. Dylent wneud y chwilio mor fyr â phosibl. Ond er budd diogelwch y cyhoedd rhaid iddynt fod yn drylwyr.
Nid yw cael eich stopio yn golygu eich bod yn cael eich arestio neu eich bod wedi gwneud rhywbeth o’i le. Rhaid bod gan swyddog heddlu reswm da i’ch stopio a/neu eich chwilio ac mae rheidrwydd arno/arni i ddweud wrthych beth yw’r rheswm hwnnw.
Mewn rhai achosion, caiff pobl eu stopio fel rhan o ymdrech eang i ddal troseddwyr mewn man cyhoeddus a dargedir. Daw’r pwerau hyn o dan adran 60 Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994. Dylai’r swyddog egluro hyn wrthych a rhaid iddo/iddi fod yn chwilio am eitemau sydd i’w defnyddio mewn cysylltiad â thrais.
Ni ddylech gael eich stopio dim ond oherwydd eich oedran, hil, cefndir ethnig, cenedligrwydd, ffydd, yr iaith rydych chi’n ei siarad neu gan eich bod wedi cyflawni trosedd yn y gorffennol.
Gall yr heddlu eich stopio a’ch chwilio chi neu gerbyd: