Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae blacmel rhywiol ('sextortion' yn Saesneg weithiau) yn golygu bod rhywun yn bygwth cyhoeddi gwybodaeth, lluniau neu fideos rhywiol am rywun. Gall hyn gael ei wneud i geisio sicrhau arian neu i orfodi'r dioddefwr i wneud rhywbeth yn erbyn eu hewyllys. Mae lluniau neu recordiadau yn cael eu gwneud yn aml heb i'r dioddefwr sylweddoli na chydsynio.
Mae troseddwyr yn aml yn targedu pobl drwy apiau detio, y cyfryngau cymdeithasol, gwe-gamerâu neu wefannau pornograffi. Gallan nhw ddefnyddio hunaniaeth ffug i ddod yn ffrind ichi ar-lein ac yna bygwth anfon delweddau at eich teulu a'ch ffrindiau.
Gall blacmel rhywiol gael ei gyflawni gan unigolion ond gangiau troseddu cyfundrefnol sydd y tu ôl iddo fel arfer.
Mae gan y rhan fwyaf o wefannau yn y cyfryngau cymdeithasol reolau yn erbyn rhannu cynnwys personol heb gydsyniad. Fe ddylech chi allu trefnu bod y deunydd yn cael ei ddileu.
Rydyn ni’n deall y gall fod yn anodd riportio’r math hwn o drosedd inni. Mae’n swyddogion ni yma i wrando ac i'ch cefnogi mewn unrhyw ffordd y gallwn.
Gallwch riportio cam-drin drwy ddelweddau personol inni:
Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA)
Yn arwain brwydr y Deyrnas Unedig yn erbyn bygythiadau troseddau difrifol a throseddau cyfundrefnol.
Gwybodaeth ffeithiol a hawdd i’w deall am ddiogelwch ar-lein.
Canolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP)
Sut i’ch cadw chi’ch hun neu blentyn rydych chi'n ei adnabod yn ddiogel rhag camfanteisio'n rhywiol ar blant.