Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gwrandawiadau camymddygiad yn cael eu cynnal i gyflwyno ffeithiau'r achos ac i ganiatáu i'r person esbonio’i ymddygiad a'r amgylchiadau sy'n gysylltiedig â'r honiad. Gall tystion gael eu galw hefyd i roi tystiolaeth.
Diben gwrandawiad cyhoeddus yw dangos bod ein system ddisgyblu yn agored ac yn dryloyw. Bydd yn dangos ein bod yn dal swyddogion sy'n torri safonau ymddygiad proffesiynol, neu'r rhai lle profir bod yna gamymddygiad, yn atebol am eu gweithredoedd.
Rydym yn dyrannu lleoedd yn y gwrandawiad ar sail y cyntaf i'r felin. Gallwch wneud cais drwy ddefnyddio’n ffurflen archebu.
Sylwch y gall y Cadeirydd hefyd benderfynu gosod amodau eraill cyn neu yn ystod y gwrandawiad.
I wneud cais am fynd i wrandawiad, gweler y gwrandawiadau sydd yn yr arfaeth a llenwch y ffurflen gyflym a syml. Os oes lle ar gael anfonwn neges ebost atoch i gadarnhau hynny.
Allwn ni ddim ad-dalu unrhyw dreuliau y byddwch yn eu hysgwyddo wrth fynd i wrandawiad.
Weithiau bydd gwrandawiad camymddygiad yn cael ei ganslo ar fyr rybudd. Yn y sefyllfaoedd hyn gwnawn ein gorau i roi gwybod ichi, ond efallai na fydd yn bosibl. Mae'n ddrwg gennym os bydd hyn yn digwydd i chi.
Weithiau, fydd gwrandawiad camymddygiad ddim yn cael ei gynnal yn gyhoeddus, neu ran yn unig fydd yn cael ei chynnal yn gyhoeddus. I benderfynu hyn, mae'r Cadeirydd yn ystyried:
Os bydd y Cadeirydd yn penderfynu na ddylai'r dystiolaeth sydd i'w rhoi gan dyst neu unrhyw un arall gael ei datgelu’n gyhoeddus, fe fydd yn gofyn i'r cyhoedd gael eu symud o'r gwrandawiad.
I gael rhagor o wybodaeth am fynd i wrandawiad camymddygiad, darllenwch ein hamodau mynediad.
Rydym yn darparu'r cyfleusterau canlynol i ymwelwyr sy'n llai abl:
Os oes gennych nam ar eich clyw, bydd angen i chi drefnu eich dehonglwyr eich hun, os bydd angen.
Gall aelodau o’r cyhoedd fynd i wrandawiadau apeliadau fel sylwedyddion ond nid ydynt yn cael cymryd rhan yn y trafodion.