Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn dioddef camdriniaeth gallwch roi gwybod i ni am hyn, naill ai drwy ffonio 101 neu ar-lein. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun ar 18001 101.
Os oes perygl i ddiogelwch rhywun ar y pryd, ffoniwch 999. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun ar 18000 neu tecstiwch ni ar 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda’r gwasanaeth SMS brys.
Mae’r cynllun hwn yn rhoi’r hawl i unrhyw aelod o’r cyhoedd ofyn i’r heddlu a allai ei bartner/phartner beri risg iddynt. Fe’i gelwir yn aml yn ‘Gyfraith Clare’ ar ôl yr achos tirnod a arweiniodd at sefydlu’r cynllun.
Mae’r cynllun hwn hefyd yn caniatáu i aelodau’r cyhoedd wneud ymholiadau am bartner i ffrind agos neu aelod o’r teulu.
Nid ffurflen ar gyfer riportio cam-drin domestig yw hon. Os ydych am wneud hynny, riportiwch drosedd.
Sylwer: Nid yw’r Cynllun Datgelu Trais Domestig yn disodli gwiriadau’r Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB), ceisiadau gwrthrych am wybodaeth neu geisiadau rhyddid gwybodaeth (FOI) a’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd newydd.
Os ydych yn byw yn yr Alban, gallwch ofyn am wybodaeth o dan y gynllun datgelu camdriniaeth ddomestig yn yr Alban.