Mae stelcio neu aflonyddu yn ymddygiad hynod annymunol a maleisus sy’n achosi trallod - ac nid yw’n rhywbeth y dylai unrhyw un ei oddef. Dilynwch y cyngor hwn er mwyn lleihau’r siawns o ddod yn darged ac atal pobl rhag cael gafael ar eich gwybodaeth a dysgu mwy amdanoch chi a’ch trefn arferol. Cofiwch, rydym wastad yma i gynnig cyngor, ac os ydych chi’n teimlo yr aflonyddir arnoch, riportiwch hynny.
Yr ystadegau
Gall dioddefwyr gael eu stelcio am flynyddoedd gyda chyfartaledd achosion yn para 15 mis. Fodd bynnag, mae llawer o achosion yn para’n hirach - mae 30 y cant o’r bobl sy’n cysylltu â’r llinell gymorth wedi cael profiad o stelcio am dros ddwy flynedd ac 13 y cant wedi cael eu stelcio am dros bum mlynedd.
Yn anffodus, y gwirionedd yw bod y rhan fwyaf o bobl yn adnabod y sawl sy’n eu stelcio: y grŵp mwyaf o stelcwyr (45 y cant o’r holl achosion) yw cyn bartneriaid. Ond, os ydych yn adnabod y person ai peidio, mae nifer o gamau y gallwch eu cymryd i ddadrymuso stelcwyr a diogelu eich hun rhag cael eich targedu a’ch tracio.
Ar-lein
Dyma gynghorion defnyddiol sydd wedi’u bwriadu i'ch helpu i amddiffyn eich hun ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol:
- cyfyngwch eich postiadau ar gyfryngau cymdeithasol i chi a’ch ffrindiau yn unig ac nid y cyhoedd
- gwiriwch y gosodiadau preifatrwydd ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol a chyfyngwch ar faint o wybodaeth yr ydych yn ei rhoi
- cynhaliwch chwiliad Google arnoch eich hun yn aml i wirio eich ôl troed digidol
- peidiwch â defnyddio’r un cyfrinair ar gyfer popeth
- byddwch yn ymwybodol o geoleoliad a thagio ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol a gwnewch yn siŵr ei fod wedi’i analluogi ar eich ffôn clyfar
- cadwch eich meddalwedd gwrthfeirysau wedi’i diweddaru
- riportiwch stelcio i weinyddwyr gwefannau
- os ydych chi’n credu bod eich ffôn clyfar neu gyfrifiadur wedi cael ei hacio neu mewn perygl o hynny, rhowch y gorau i’w ddefnyddio ar unwaith ac ewch ag ef at ddarparwr eich ffôn symudol neu arbenigwyr trwsio cyfrifiaduron i gael cyngor
Ateb y ffôn
- peidiwch ag ateb y ffôn drwy ddweud eich cyfeiriad neu rif ffôn
- os na wyddoch pwy sy’n ffonio, peidiwch ag ateb unrhyw gwestiynau am eich hun, waeth pa mor ddilys y maent yn swnio
- os oes gennych beiriant ateb, cynghorir chi i beidio â defnyddio eich enw na’ch cyfeiriad yn y neges
- ni ddylai’r neges ddweud wrth rywun eich bod allan neu ddim adref; ceisiwch roi’r argraff eich bod yn methu ag ateb y ffôn ar y pryd: e.e. 'Yn anffodus, alla’i ddim ateb y ffôn ar hyn o bryd, felly gadewch eich enw a’ch rhif ac fe gysylltaf yn ôl yn syth.'
- os ydych wedi’ch rhestru mewn unrhyw lyfrau ffôn, efallai y byddwch am roi llythrennau blaen a’ch cyfenw yn hytrach na’ch enw llawn
- peidiwch byth â dangos dicter neu ofn dros y ffôn: arhoswch dan reolaeth, yn hyderus ac os oes angen yn bendant
Yr hyn y gallwch ei wneud os ydych chi wedi dioddef
Gallwch chi riportio troseddau stelcio, aflonyddu neu ddinoethi anweddus inni ar-lein neu drwy ein ffonio ni ar 101.
Gwefannau defnyddiol
Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn cynnig cyngor a help i unrhyw un y mae trosedd yn effeithio arno, gan gynnwys aflonyddu a stelcio.
Gwasanaeth cenedlaethol sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth i ddioddefwyr stelcio.