Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gallwch ofyn am wybodaeth sydd gan yr heddlu amdanoch chi gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (ACRO) neu heddlu lleol.
Mae pwy i’w holi yn dibynnu ar ba wybodaeth yr hoffech ei chael. Os nad ydych yn siŵr, fe allwch wneud cais i’r ddau.
Pwy i’w holi |
Am beth yr ydych yn medru holi |
Sut i holi |
Pris |
---|---|---|---|
Swyddfa Cofnodion Troseddol (ACRO) |
Gwybodaeth sy’n cael ei chadw ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC). Mae hyn yn cynnwys manylion arestiadau, rhybuddion ac euogfarnau. |
Am ddim |
|
Heddlu lleol |
Unrhyw wybodaeth arall sydd gennym amdanoch. |
Gallwch wneud cais am wybodaeth wrthym ar-lein. Gallwch hefyd wneud cais dros y ffôn, drwy ebost, drwy'r post, neu mewn person. Mae'n rhaid ichi wneud cais i'r heddlu lle digwyddodd y peth. Gallai hyn olygu y bydd rhaid ichi wneud cais i fwy nag un heddlu. |
Am ddim |