Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gennych chi hawl i ofyn inni gyfyngu ar waith prosesu’ch data personol.
Erthygl 18 o GDPR y Deyrnas Unedig, yn Neddf Diogelu Data 2018 (Adran 47), sy’n nodi'r hawl hon.
Mae’r hawl hon yn gymwys, er enghraifft os:
Os na fyddwch yn rhoi digon o wybodaeth inni, gallai hyn ohirio’n hymateb i'ch cais.
Mae gennym fis i weithredu ar eich cais neu ddweud wrthoch chi pam nad ydyn ni’n cymryd unrhyw gamau. Mewn achosion cymhleth, mae gennym dri mis. O ran prosesau gorfodi'r gyfraith, byddwn yn ymateb heb oedi diangen ac o fewn mis beth bynnag.
Mae gennych chi hawl i apelio i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Gallwch hefyd gyflwyno cwyn. Os ydych chi'n meddwl ein bod ni wedi torri’r deddfau diogelu data, gallwch fynd â ni i'r llys.