Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gennych chi hawl i ofyn inni gywiro data personol amdanoch chi sy’n anghywir, heb oedi diangen.
Gan ddibynnu ar pam rydym yn prosesu'r data, mae gennych chi hawl hefyd i gwblhau data personol anghyflawn. Er enghraifft, gallwch ychwanegu datganiad at y data dadleuol yn nodi’ch pryderon. Rydym yn galw hyn yn farciwr gwybodaeth ddadleuol. Byddwn yn eich helpu i'w ysgrifennu.
Erthygl 16 o GDPR y Deyrnas Unedig, yn Neddf Diogelu Data 2018 (Adran 46), sy’n rhoi’r hawliau hyn ichi.
Mae data personol yn anghywir os yw'n cynnwys ffeithiau sy'n anghywir neu'n gamarweiniol, yn ôl Deddf Diogelu Data 2018 (DDD 2018).
Mae barn, drwy ddiffiniad, yn oddrychol. Gall fod yn anodd dod i'r casgliad bod y cofnod o farn yn anghywir. Dylai'r cofnod ei gwneud yn glir mai barn yw'r wybodaeth a, lle bo'n briodol, barn pwy ydy hi. Ond fe all fod yn anodd dweud ei bod yn anghywir a bod angen ei chywiro.
Mae gennym fis i weithredu ar eich cais neu ddweud wrthoch chi pam nad ydyn ni’n cymryd unrhyw gamau. Mewn achosion cymhleth, mae gennym dri mis. O ran prosesau gorfodi'r gyfraith, byddwn yn ymateb heb oedi diangen ac o fewn mis beth bynnag.
Mae gennych chi hawl i apelio i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Gallwch hefyd gyflwyno cwyn. Os ydych chi'n meddwl ein bod ni wedi torri’r deddfau diogelu data, gallwch fynd â ni i'r llys.