Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r canllawiau a ganlyn yn wir ar gyfer pob cais sydd angen prawf adnabod. Mae angen ichi ddarparu dau fath o ddogfen adnabod. Dylai'r dogfennau adnabod fod mewn dyddiad, yn ddilys a heb ddod i ben. Ceir rhestr o fathau o ddogfen adnabod derbyniol isod.
Darparwch un eitem o bob rhestr.
Os ydych yn gwneud cais ar ran rhywun arall, bydd angen ichi ddarparu dau fath o ddogfen adnabod ar gyfer y ddau ohonoch.
Rhaid i'r dogfennau hyn fod â’ch enw a'ch cyfeiriad arnyn nhw a bod wedi'u dyddio o fewn y tri mis diwethaf:
Sylwch: bydd angen ichi sganio neu gopïo'r dogfennau uchod mewn lliw. Dydyn ni ddim yn derbyn du a gwyn.
Os yw’ch cais yn gais am luniau fideo oddi ar Gamera wedi'i wisgo ar y Corff, TCC, ffotograff o'r ddalfa neu unrhyw beth sy'n cynnwys delwedd, rhaid i'ch prawf adnabod fod naill ai'n basbort neu'n drwydded yrru â llun.
Os nad oes gennych chi basbort neu drwydded yrru, byddwn yn derbyn cerdyn adnabod myfyriwr, cerdyn adnabod cwmni neu gerdyn adnabod cenedlaethol.
Os ydych chi’n gwneud cais drwy'r post, peidiwch ag anfon y copïau gwreiddiol gan na fyddant yn cael eu dychwelyd.