Diogelwch
Personol
Y rheilffyrdd yw'r ffordd fwyaf
diogel o deithio ym Mhrydain. Rydym yn dymuno eich
helpu i baratoi at eich taith a'ch grymuso i gadw'n ddiogel
tra'ch bod yn teithio
Byddwch yn barod
- Cynlluniwch eich taith cyn ichi deithio
- Gwnewch yn siŵr bod rhywun yn gwybod pryd ac i ble
byddwch yn teithio. Ewch â ffôn symudol rhag ofn bydd angen ichi
gysylltu â hwy
- Os yw eich gallu i symud yn gyfyngedig, sicrhewch o flaen
llaw y gall pob gorsaf ddarparu'r mynediad sydd arnoch ei angen
ichi
- Pan ydych yn teithio mewn grŵp, trefnwch fan cyfarfod
rhag ofn eich bod yn cael eich gwahanu a rhowch yr un rhif cyswllt
i bawb
Cadwch yn ymwybodol
- Byddwch yn ymwybodol o'r hyn sydd o'ch cwmpas a cheisiwch
ymddangos yn hyderus ynghylch ble rydych yn mynd
- Osgowch lefydd â goleuadau gwael a cheisiwch aros o
fewn golwg camerâu CCTV neu'n agos at bobl eraill
- Osgowch wrando ar stereos personol, oherwydd gallant eich
atal rhag bod yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd o'ch
cwmpas
- Cadwch eich eiddo eich hunan yn agos atoch a sicrhewch y
cedwir eitemau gwerthfawr o'r golwg
- Rhowch wybod am fagiau neu becynnau heb neb i ofalu
amdanynt ar unwaith
Ar y trên
- Pan fyddwch yn mynd ar y trên, dewiswch gerbyd lle
byddwch yn teimlo'n gysurus
- Gwarchodwch eich preifatrwydd. Gallai rhoi manylion
personol ar ffôn symudol neu eu harddangos ar label bagiau, dogfen
neu liniadur ddenu sylw lladron
- Sylwch ble lleolir y larwm argyfwng rhag ofn bod angen
ichi ei ddefnyddio.
Alcohol
Rydym yn cynghori eich bod yn yfed yn gymhedrol yn unig os oes
rhaid ichi deithio, gan ei fod yn anos bod yn ymwybodol o'r hyn
sydd o'ch cwmpas tra'ch bod wedi meddwi ac mae'n fwy tebygol y
byddwch dioddef trosedd.
Mae bod yn feddw ar drên yn drosedd, a
gellid rhoi Hysbysiad Cosb am Anhrefn (PND) ichi os credwn
eich bod wedi meddwi neu eich bod wedi cyflawni trosedd sy'n
gysylltiedig ag alcohol.
Hefyd, gellid gwrthod caniatâd i deithio ichi os byddwch
wedi meddwi.
Diogelwch y maes parcio
- Os byddwch rhywun yn cwrdd â chi yn yr orsaf,
gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod ble byddant yn aros. Mae gan rai
gorsafoedd nifer o allanfeydd a meysydd parcio
- Ceisiwch ddewis lle parcio yn agos at allanfa
os byddwch yn dychwelyd yn y tywyllwch
- Cyn gadael eich cerbyd, sicrhewch ei fod wedi'i gloi'n
ddiogel a bod eich holl eiddo personol wedi'u cloi o'r
golwg
- Os byddwch yn cymryd tacsi o'r orsaf, defnyddiwch
gwmnïau tacsi neu finicab dibynadwy yn unig