Ein strategaeth a'n cynlluniau
Er mwyn sicrhau ein bod yn darparu'r
gwasanaeth gorau posibl i'r cyhoedd, rydym yn gweithio o fewn y
cynllun strategol a'r cynllun plismona blynyddol i'n helpu i
gyflawni ein hamcanion
Cynlluniau strategol
Mae ein Cynllun Strategol yn cyflwyno'r hyn rydym yn bwriadu ei
gyflawni a'i ddarparu dros gyfnod o dair blynedd. Bydd y cynllun
cyfredol, sy'n rhedeg o 2013 i 2019, yn golygu ein bod yn:
- Helpu i gadw'r systemau trafnidiaeth rheilffyrdd yn rhedeg
- Helpu i wneud y rheilffyrdd yn saffach a diogelach
- Darparu gwerth am arian trwy welliant parhaus
- Hyrwyddo hyder i ddefnyddio'r rheilffyrdd
Lawrlwythwch
Gynllun Strategol 2013-2019 (Fformat PDF).
Cynlluniau plismona
Yn ogystal â'n Cynllun Strategol, byddwn hefyd yn cyhoeddi ein
Cynlluniau Plismona bob blwyddyn.
Lawrlwythwch Gynllun Plismona 2015/16 (Fformat
PDF).
Mae ein Cynlluniau Plismona blynyddol yn amlinellu sut byddwn yn
cyflawni ein nodau strategol, dros y 12 mis nesaf yn benodol, ac yn
manylu ar dargedau y caiff ein llwyddiant ei fesur mewn cymhariaeth
â hwy. Maent yn cwmpasu amcanion lleol a chenedlaethol fel ei
gilydd, gan sicrhau ein bod yn cadw cydbwysedd cywir rhwng
anghenion lleol a chenedlaethol.
Archif
Cynlluniau Plismona Cenedlaethol ac Ardal
2014-15 (Fformat PDF).
Rhagor o wybodaeth
Y Cynlluniau Strategol a Phlismona yw'r blociau adeiladu a
ddefnyddiwn fel sail i berfformiad ac i ymdrechu i sicrhau
llwyddiant. Pa weithgaredd bynnag bydd ein swyddogion a'n staff yn
ymwneud ag ef, dylai fod yn gysylltiedig yn uniongyrchol ag un o'n
nodau strategol neu amcanion y Cynllun Plismona.