Prif Arolygydd
Sandra England
Llawr Cyntaf
3 Sgwâr Callaghan
Caerdydd CF10 5BT
Ffôn: 029 20359235
Mae Plismona yn y Gymdogaeth yn greiddiol i'n
gwaith o wneud y Gymuned a'r Rhwydwaith Rheilffyrdd yn ddiogel. Mae
Timau Plismona yn y Gymdogaeth yn darparu gwasanaeth a gaiff ei
deilwra i anghenion y gymuned leol, sy'n rhoi cyfle i'r Cwmnïau
Gweithredu Trenau a Sefydliadau eraill weithio mewn partneriaeth i
fynd i'r afael ag anghenion a phryderon amrywiol y cyhoedd sy'n
teithio a staff y rheilffyrdd.
Credaf ei bod yn hanfodol bod gan y gymuned
rydym yn gweithio gyda hi lais sy'n dylanwadu ar benderfyniadau a
wneir am flaenoriaethau plismona yn eu cymdogaethau. Mae'r Addewid
Plismona newydd yn bwysig iawn i ni a'n gweledigaeth yw sicrhau bod
ein cymunedau i gyd yn teimlo'n ddiogel drwy gyflawni addewid
plismona sy'n ceisio sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn gywir y
tro cyntaf.
Pontypridd
Caerdydd