Hafan  Map o’r wefan  Cysylltwch â ni English

Amdanom ni

Mae'r rheilffyrdd yn amgylchedd plismona unigryw sydd ag anghenion unigryw. Diben y 2,835 o swyddogion yr heddlu a'r 1,455 o staff cymorth sydd gan yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yw darparu gwasanaethau plismona arbenigol i ddiwallu'r anghenion hynny.

 

Rydym yn plismona'r traciau ac yn darparu gwasanaeth i weithredwyr rheilffyrdd, eu staff a theithwyr ledled y wlad. Rydym hefyd yn plismona system trenau tanddaearol Llundain, Docklands Light Railway, system dramiau Midland Metro, Croydon Tramlink a system trenau tanddaearol Glasgow. Gyda'n gilydd, rydym yn symud ac yn diogelu tua chwe miliwn o bobl bob dydd. Drwy blismona'r rheilffyrdd rydym hefyd yn plismona'r gymuned.

 

Am fod troseddau'n ymwneud â'r rheilffyrdd yn croesi ffiniau siroedd, felly hefyd mae eu heffeithiau'n croesi ardaloedd a rhwydweithiau. Mae HTP yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i olrhain, atal a chanfod troseddau ledled y wlad. Mae ein strwythur presennol ar waith mewn saith ardal ddaearyddol ac rydym yn gweithio gyda heddluoedd lleol i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

 

Gellir olrhain hanes HTP yn ôl i 1826 - i gychwyn y gwasanaeth heddlu ym Mhrydain. Heddiw rydym yn parhau i geisio darparu gwasanaeth plismona o ansawdd. Rydym yn sefydliad sydd bob amser ar flaen y gad o ran datblygiadau yn y diwydiant rheilffyrdd ac ym maes plismona. Ac o ganlyniad rydym bob amser ar flaen y gad i chi.

 

Mwy o wybodaeth?

 

Os hoffech gael mwy o wybodaeth cysylltwch â'r tîm Cyfryngau a Marchnata ar 020 7830 8854.

 

 

 Printiwch y dudalen  Tecst yn unig  Tudalen PDF Polisi Preifatrwydd Ymwrthodiad cyfreithiol