Hafan  Map o’r wefan  Cysylltwch â ni English

Polisi Preifatrwydd

 

Mae'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn ymrwymedig i ddiogelu eich preifatrwydd ar-lein.

 

Cwcis

 

Mae cwci HTTP (neu'n syml, “cwci”) yn llinyn testun a anfonir yn ôl ac ymlaen rhwng porwr gwe a'r gweinydd y mae'n ei ddefnyddio. Defnyddir cwcis i wahaniaethu rhwng y naill ddefnyddiwr a'r llall a storio gwybodaeth am sesiynau defnyddwyr ar y we.

 

Rydym yn defnyddio Google Analytics i helpu i ddadansoddi'r defnydd a wneir o'n gwefan. Mae'r adnodd dadansoddol hwn yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol a gwybodaeth am ymddygiad ymwelwyr yn ddienw.

Dim ond er mwyn casglu data sydd ei angen ar gyfer yr adroddiadau y mae Google Analytics yn gosod neu'n diweddaru cwcis. Trosglwyddir y wybodaeth a gynhyrchir gan y cwci am y defnydd rydych yn ei wneud o'r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP) i Google. Defnyddir y wybodaeth hon wedyn i werthuso'r defnydd y mae ymwelwyr yn ei wneud o'r wefan a llunio adroddiadau ystadegol ar weithgarwch y wefan.

 

Dim ond er mwyn darparu'r wefan orau bosibl i'n hymwelwyr y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon. Ni fyddwn byth yn caniatáu i Google Analytics, nac unrhyw drydydd parti, ddefnyddio'r wybodaeth hon i olrhain na chasglu unrhyw wybodaeth a allai ddatgelu manylion personol unigolyn. Yn yr un modd, ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP ag unrhyw ddata arall a ddelir gan Google.

 

Ni fydd yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig na Google yn cysylltu (nac yn ceisio cysylltu) unrhyw gyfeiriad IP ag enw defnyddiwr cyfrifiadur.

 

Er mwyn dewis peidio â chael eich tracio gan Google Analytics ar bob gwefan ewch i http://tools.google.com/dlpage/gaoptout

 

Os byddwn am gasglu gwybodaeth a allai ddatgelu manylion personol unigolion drwy wefan yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (arolwg ar-lein, er enghraifft), byddwn bob amser yn hysbysu'r defnyddiwr o'r defnydd y bwriedir ei wneud ohoni. Ni fyddwn byth yn defnyddio'r wybodaeth hon at unrhyw ddiben arall heblaw am yr hyn a nodwyd ac ni fyddwn ychwaith yn trosglwyddo'r wybodaeth hon i unrhyw drydydd parti.

 

Rydym yn casglu'r wybodaeth hon mewn ffordd nad yw'n adnabod unrhyw un. Nid ydym yn ceisio canfod pwy sy'n ymweld â'n gwefan.

 

Gwybodaeth gyswllt

 

Os cysylltwch â ni drwy'r wefan hon rhoddir eich cyfeiriad e-bost i ni yn awtomatig ac mae'n bosibl y rhoddir manylion personol eraill i ni hefyd. Ni fydd yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn storio'r wybodaeth hon nac yn ei throsglwyddo i unrhyw barti arall. Cedwir eich manylion yn ddigon hir i ni ymateb i'ch ymholiad neu'ch sylw. Ni chânt eu cadw ar ffeil na'u defnyddio at unrhyw ddiben arall heblaw am ymateb i chi'n uniongyrchol. Wedyn, caiff eich manylion eu dileu o'n system. Ni fyddwn byth yn gwerthu, yn cyfnewid nac yn rhentu eich manylion nac yn eu datgelu i eraill mewn rhyw ffordd arall.

 

Ni ddylai plant dan 16 oed rannu unrhyw wybodaeth â gwefan heb ganiatâd rhiant/gofalwr.

 

 Printiwch y dudalen  Tecst yn unig  Tudalen PDF Polisi Preifatrwydd Ymwrthodiad cyfreithiol