61016: ein rhif tecstio ar gyfer digwyddiadau nad ydynt yn rhai
brys
Gallwch ein tecstio nawr ar 61016 i roi gwybod inni am
ddigwyddiadau nad ydynt yn rhai brys. Mewn argyfwng ffoniwch 999
bob tro.
Gallwch ein tecstio ar 61016 i adrodd digwyddiadau nad
ydynt yn rhai brys, megis y rhai byddech yn eu hadrodd
wrth y rhif ffôn 101 a ddarperir gan eich heddlu lleol.
Caiff y rhif tecstio ei fonitro 24/7 ac, er nad yw ar gyfer
adrodd argyfyngau, byddwn yn gallu anfon swyddogion os bydd
angen.
Pryd i ddefnyddio’r gwasanaeth tecstio:
Tecstiwch 61016 (neu ffoniwch 0800 40 50 40) pan ydych chi
eisiau cysylltu â ni ynghylch problem nad yw’n galw am ymateb frys.
Er enghraifft, gallwch decstio pan:
- Rydych chi eisiau’n hysbysu o ddigwyddiad
sydd wedi digwydd eisoes
- Rydych chi eisiau’n hysbysu o broblemau’n
effeithio ar eich taith ar y rheilffordd neu’ch gorsaf leol
- Mae gennych ymholiad cyffredinol i'r
heddlu
Os yw'ch ymholiad yn ymwneud â bysus neu ffyrdd, gallwch
gysylltu â'r heddlu lleol unrhywle yn y wlad trwy ffonio 101.
Pryd i ffonio 999:
Ffoniwch 999 bob tro pan fydd arnoch angen ymateb frys gan yr
heddlu megis:
- Mae trosedd yn digwydd
- Mae rhywun gerllaw yr amheuir ei fod wedi
cyflawni trosedd
- Mae rhywun wedi'i anafu, yn cael ei fygwth
neu mewn perygl
Gallai darparwr eich gwasanaeth symudol godi taliad bach arnoch
i decstio 61016. Bydd yr union gost yn dibynnu ar eich rhwydwaith a
thariff.