|
O dan Ddeddf Diwygio'r Heddlu 2002, caiff cwynion am gyfeiriad a
rheolaeth yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig eu trin yn wahanol i
gwynion am ymddygiad swyddogion yr heddlu a staff yr heddlu. Mae'r
wybodaeth hon yn cyfeirio at ein polisi ar ddelio â chwynion sy'n
ymwneud â'r ffordd y mae'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn cael ei
gyfeirio a'i reoli.
Mathau o
gwynion
Bydd cwyn am gyfeiriad a rheolaeth yr Heddlu Trafnidiaeth
Prydeinig yn un am:
- polisïau plismona gweithredol (pan nad yw'n ymwneud â
chamymddwyn)
- penderfyniadau sefydliadol sy'n dylanwadu ar gyfeiriad a
rheolaeth
- safonau plismona cyffredinol yr Heddlu Trafnidiaeth
Prydeinig
- penderfyniadau rheolaeth weithredol (pan nad yw'n ymwneud â
chamymddwyn)
Pwy
sy'n delio â'r cwynion?
Y prif gwnstabl ac Awdurdod Heddlu Trafnidiaeth Prydain sy'n
gyfrifol am ddelio â chwynion am gyfeiriad a rheolaeth yr
Heddlu.
Ymdrin â chwynion
Caiff pob cwyn ei chofnodi a'i chyfeirio at y prif swyddog neu
unigolyn arall sy'n gweithredu ar ei ran. Caiff llythyr ffurfiol
gyda manylion am y penderfyniad a wnaed ei anfon at yr achwynydd i
esbonio'r canfyddiadau. Mae'n bosib y caiff cyfarfod ffurfiol ei
drefnu hefyd i roi esboniad llawn o'r penderfyniad i'r achwynydd.
Mae'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn delio â phob cwyn yn
ddifrifol iawn a bydd yn rhoi esboniad llawn am y penderfyniad. Os
oes gofyn am adolygiad o bolisi neu drefn benodol caiff yr
achwynydd ei hysbysu.
Gwybodaeth a gedwir yn
ôl
Mae'n bosib na chaiff gwybodaeth o natur sensitif ei
throsglwyddo i'r achwynydd.
Amserlen ar gyfer cwynion
Caiff cwynion eu trin o fewn 28 diwrnod i'w cofnodi. O ganlyniad
i gŵyn, os bydd angen adolygu neu newid un o bolisiau'r Heddlu
Trafnidiaeth Prydeinig, gallai hyn effeithio ar yr amser a gymerir
i ymateb. Caiff yr achwynydd ei hysbysu drwy gydol y broses a
chaiff wybod am unrhyw ddatblygiadau.
Gwybodaeth am gwynion
Mae'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn rhoi gwybodaeth rheoli i
Awdurdod Heddlu Trafnidiaeth Prydain bedair gwaith y flwyddyn am y
cwynion a gawn yn ymwneud â chyfeiriad a rheolaeth. Mae hyn er mwyn
sicrhau bod perfformiad yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn cael ei
fonitro'n barhaus a bod y gwasanaeth yn cael ei wella.
Rôl
Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu
Rôl y Comisiwn yw sicrhau bod cwynion yn erbyn yr heddlu yn cael
eu trin yn effeithlon. Mae'r Comisiwn yn gosod safonau ar gyfer y
ffordd y mae'r heddlu yn ymdrin â chwynion ac yn helpu'r heddlu i
wella'r ffordd maent yn gweithio, pan fo rhywbeth wedi mynd o'i
le.
Dolenni perthnasol
Comisiwn Cwynion Annibynnol yr
Heddlu
Awdurdod
Heddlu Trafnidiaeth Prydain
|