Home  Site Map  Contact us  Links

Cwynion am unigolion

Os hoffech gwyno am ymddygiad swyddog yr heddlu unigol neu aelod o staff yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig cliciwch yma i gwblhau'r ffurflen gwyno ar-lein.

 

Dylech anfon e-bost atom am y rhesymau canlynol:

  • chi oedd y person a oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â'r digwyddiad
  • roeddech yn dyst i'r digwyddiad
  • cawsoch eich effeithio'n andwyol gan y digwyddiad
  • rydych yn cynrychioli rhywun a oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â'r digwyddiad (ar yr amod bod gennych ganiatâd ysgrifenedig)
  • rydych yn aelod o heddlu arall nad oeddech ar ddyletswydd ar adeg y digwyddiad

 

Cwynion ysgrifenedig

Os byddai'n well gennych gysylltu â ni'n ysgrifenedig, a fyddech cystal â chynnwys y wybodaeth ganlynol ynghyd â'ch enw a'ch manylion cyswllt:

 

  • beth ddigwyddodd
  • pryd digwyddodd
  • pwy oedd yn ymwneud â'r digwyddiad
  • beth gafodd ei ddweud neu ei wneud
  • a oedd tystion a sut y gellir cysylltu â nhw
  • manylion am unrhyw ddifrod neu anaf

 

Anfonwch at:

Professional Standards Department, British Transport Police, 25 Camden Road, London NW1 9LN. Neu ffoniwch 0207 830 8828 i gael mwy o wybodaeth.

 Print Page  Text Only  PDF Page  Privacy policy    Legal disclaimer