Home  Site Map  Contact us  Links

Safonau Proffesiynol

(English)

 

Un o werthoedd allweddol Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yw sicrhau cyfanrwydd yr Heddlu a chyflawnir hyn trwy fod yn agored, gonest a chadw'r safonau proffesiynol gorau. 

 

Mae pennaeth yr adran Safonau Proffesiynol yn dditectif brif uwch-arolygydd, a phrif rôl yr adran yw ymchwilio i gwynion gan aelodau'r cyhoedd yn drylwyr, effeithlon, diduedd ac i'r safon orau posibl.

 

O dan Ddeddf Diwygio'r Heddlu 2002 gall aelodau'r cyhoedd wneud cwyn sy'n ymwneud ag unigolyn o fewn heddlu ac mae'n rhaid i'r heddlu dan sylw ymateb i gwynion gan ddilyn canllawiau caeth sydd wedi'u gosod gan y senedd.

 

Mae'r adran Safonau Proffesiynol yn delio â phob cwyn gan y cyhoedd ac yn pennu swyddog ymchwilio, neu gydag achosion llai difrifol, yn cyfeirio'r mater i ardal weithredol yr heddlu lleol er mwyn iddynt ddelio â'r mater yn briodol. Bydd gofyn i'r adran Safonau Proffesiynol gyfeirio rhai achosion at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu a fydd o bosibl yn penderfynu ymchwilio iddynt eu hunain.

 

Mae'n rhaid i'r ymchwilwyr gyflwyno adroddiad gydag argymhellion i'r pennaeth ymchwiliadau yn yr adran Safonau Proffesiynol a gwneir penderfyniad yng ngoleuni'r argymhellion hyn. Bydd yr adran Safonau Proffesiynol yn cyfeirio unrhyw achos troseddol i Wasanaeth Erlyn y Goron, neu i'r Procuradur Ffisgal yn yr Alban.

 

Goruchwylir yr adran Safonau Proffesiynol gan sefydliadau allanol er mwyn sicrhau bod y safonau uchaf yn cael eu cadw. Y sefydliadau allanol yw:

 

Pwyllgor Safonau Proffesiynol Awdurdod Heddlu Trafnidiaeth Prydain

Mae'r Pwyllgor hwn yn goruchwylio gwaith yr adran Safonau Proffesiynol ar ran Awdurdod Heddlu Trafnidiaeth Prydain. Caiff adroddiadau chwarterol ar weithgareddau'r adran a chynhelir cyfarfodydd chwarterol rhwng y dirprwy brif gwnstabl, y pennaeth safonau proffesiynol a'r Pwyllgor, i adolygu achosion a gweithgaredd yr adran.

www.btpa.police.uk

 

Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu

Mae'r Comisiwn yn gorff annibynnol a sefydlwyd yng Nghymru a Lloegr i oruchwylio'r system gwynion. Mae'r adran Safonau Proffesiynol yn adrodd i'r Comisiwn ar y modd y mae'n delio â chwynion. Cynhelir cyfarfodydd chwarterol rhwng y pennaeth safonau proffesiynol a'r comisiynwr perthnasol o'r Comisiwn ble adolygir achosion penodol. Mae'r Comisiwn hefyd yn arolygu, rheoli ac yn ymchwilio i gwynion mewn unrhyw achosion mwy difrifol a chymhleth.

www.ipcc.gov.uk

 

Comisiynwr Cwynion yr Heddlu yn yr Alban

Mae'r Comisiynwr yn yr Alban yn adolygu'r modd y mae awdurdodau'r heddlu, yr heddluoedd ac asiantaethau plismona yn delio â chwynion yn ymwneud â chamymddwyn gan y cyhoedd yn yr Alban. Mae'r adran Safonau Proffesiynol yn darparu gwybodaeth i'r Comisiynwr yn yr Alban am ei gweithgareddau a chynhelir cyfarfodydd rheolaidd rhwng pennaeth yr adran Safonau Proffesiynol a'r Comisiynwr yn yr Alban i adolygu gweithgareddau. Gall y Comisiynwr yn yr Alban orchymyn i'r cwynion gael eu hail-ystyried. Y Procuradur Ffisgal sy'n delio ag achosion troseddol.

www.pcc-scotland.org

 

Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi

Cyfrifoldeb Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi yw ymchwilio a gwella effeithlonrwydd gwasanaeth yr heddlu yng Nghymru a Lloegr. Fel rhan o'r cylch gorchwyl hwn maent yn cynnal arolygiadau thematig o adrannau safonau proffesiynol. Bydd yr adran Safonau Proffesiynol yn gweithredu ar unrhyw argymhellion fydd yn dilyn arolygiad.

 

Cwynion

 

Cliciwch ar cwynion i gael rhagor o wybodaeth.

 

 Print Page  Text Only  PDF Page  Privacy policy    Legal disclaimer